Dywed Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cynulliad Cymru (yn y ddogfen Canllawiau ar gyfer trefn hyfforddiant iaith Gymraeg yn y gweithle):
‘Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 582,368 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, sef 20.8% o’r boblogaeth. Mae’n bwysig bod gan y siaradwyr hyn, ynghyd â’r plant a’r oedolion sy’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd, fynediad i wasanaethau Cymraeg.
Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n ofynnol ar gyrff cyhoeddus i lunio cynlluniau iaith Gymraeg ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn gweithio gyda’r cyrff hynny i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu i gwsmeriaid yn Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae cyflogwyr, boed yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, yn cymryd camau i ddarparu hyfforddiant iaith Gymraeg yn y gweithle er mwyn sicrhau bod sgiliau Cymraeg priodol gan y gweithwyr i ddarparu gwasnaethau yn Gymraeg’.
Mae’r ddarpariaeth Cymraeg yn y Gweithle yn prysur dyfu ar draws Cymru, yn y sector cyhoeddus yn bennaf, sef mewn sefydliadau sydd wedi ymrwymo i gynnig hyfforddiant i staff yn y Gymraeg fel rhan o’u cynlluniau iaith. Mae llawer o’r cyrsiau wedi’u hanelu at weithwyr sydd yn ymwneud â’r cyhoedd fel rhan o’u gwaith bob dydd, sydd yn ymateb i ddyheadau cwsmeriaid cwmnÏau. Yn gynyddol, fodd bynnag, mae cyflogwyr eisiau cynnig cyrsiau sydd yn datblygu sgiliau dwyieithog eu gweithwyr, ac sydd yn cynorthwyo i greu gweithlu dwyieithog. Mae cwmnïau megis Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn datblygu projectau cyffrous, megis cyfundrefn o bencampwyr iaith, sydd yn newid ethos ieithyddol gweithleoedd i fod yn hyderus ddwyieithog.
Cymhwyster Cenedlaethol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion
Er mwyn diwallu anghenion cwmnïau a busnesau, mae angen sicrhau hyfforddiant a deunydd priodol i diwtoriaid. Erbyn hyn, wrth gwrs, cynigir y cwrs Cymhwyster Cenedlaethol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion ac mae Uned 5 y cwrs yn ymwneud â Chymraeg at Ddibenion Penodol. Un o’r dibenion hynny yw defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a cheir enghreifftiau yn yr uned o ymarferion ateb y ffôn yn ogystal ag ymarferion yn ymwneud â chynllunio cwrs i gyflogwyr penodol. Am fwy o fanylion am y Cymhwyster gellir cysylltu â Carole Bradley yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg. cymraegioedolion@cf.ac.uk
Caryl Clement
Mae un tiwtor yn arbennig wedi bod yn flaenllaw iawn yn y maes Cymraeg yn y Gweithle ac wedi creu llawer o ddeunydd. Bu Caryl Clement ar un adeg yn gyfrifol am broject o’r enw ‘Cymraeg Gwaith,’ (dan ofal Adran Addysg Barhaus Oedolion, Prifysgol Cymru, Abertawe) gan greu cyrsiau unigryw i nifer o gyflogwyr. Cafwyd cyflwyniad ganddi yn y Gynhadledd Genedlaethol i Diwtoriaid Cymraeg i Oedolion rai blynyddoedd yn ôl a soniodd bryd hynny am hanfodion y maes Cymraeg yn y Gweithle, sef:
- Cyrsiau i ddechreuwyr
- Cyrsiau i siaradwyr Cymraeg
- Pecynnau dysgu hyblyg
- Cyrsiau TG dwyieithog
O ran y dechreuwyr, roedd Caryl Clement yn gweld mai’r cyrsiau canlynol oedd eu hangen fwyaf a bod angen darparu ar gyfer y gweithwyr hynny sy’n gweithio yn y meysydd a nodir:
- Cwrs ffôn a derbynfa
- Cwrs gweithio mewn tŷ bwyta
- Cwrs gweithio mewn gwesty
- Cwrs gweithio mewn archfarchnad
- Cwrs gweithio mewn meithrinfa
Roedd hi’n gweld bod anghenion gan y siaradwyr Cymraeg hefyd, er eu bod yn wahanol i anghenion y dysgwyr. Mae angen darparu’r canlynol iddyn nhw:
- Cwrs bancio dros y ffôn
- Cwrs cymryd rhan mewn cyfarfodydd
- Cwrs gweithwyr meithrinfeydd
- Cyfieithu cymunedol – ar bapur.
Er mwyn codi cyrhaeddiad a sicrhau mwy o ymrwymiad a chynnydd, rhaid medru cynnig pecynnau dysgu hyblyg. Roedd y pecynnau a gynigiwyd gan Caryl yn cynnwys:
- Sesiwn ynganu gyda thiwtor
- Cwrslyfr
- CD rom
Yn ei barn hi, er mwyn caniatáu i’r dysgu cyfunol hwn lwyddo, dylid cynnig cyrsiau TG i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg gan roi sylw i’r agweddau isod:
- E-bost a’r we
- Word a rheoli ffeiliau
- Argraffu Pen Desg
- Defnyddio Camera Digidol
- Cyrsiau Photoshop
- Cyrsiau cynllunio gwefannau
* Gellir darllen mwy am Caryl Clement yn y Proffil Tiwtor yn yr adran Proffil. Hefyd, ewch i’r adran Deunydd Dysgu i weld sampl o unedau’r cyrsiau.
Canolfannau Cymraeg i Oedolion
Mae pob un o’r canolfannau iaith rhanbarthol wedi llwyr ymrwymo i gynnig dosbarthiadau Cymraeg yn y gweithle. Mae’r isod yn enghraifft o ddosbarth a gynigir gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg:
Hyfforddwyr adeiladu yn cyfnewid offer am lyfrau dysgu wrth iddynt ymdrechu i ddarparu cyrsiau yn Gymraeg.
Mae tiwtoriaid yng Nghanolfan Hyfforddi Adeiladwyr Caerdydd wedi bod yn cyfnewid eu hoffer am lyfrau dysgu mewn ymdrech i ddarparu cyrsiau yn Gymraeg.
Mae staff yng nghanolfan Dumballs Road wedi bod yn dysgu Cymraeg gyda Chanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, gyda’r nod o fedru darparu cwricwlwm dwyieithog yn y pen draw. Cynhelir y gwersi unwaith yr wythnos yn y ganolfan, a rhwng gwersi mae’r staff yn gwneud pob ymdrech i ddefnyddio’r Gymraeg maent wedi ei dysgu mor aml â phosibl.
Mae David Marcel, darlithydd gwaith saer yn y coleg, yn dysgu Cymraeg am fwy nag un rheswm. Yn ogystal â dysgu ar gyfer ei waith, mae hefyd yn ceisio dal i fyny gyda’i ddwy ferch fach sy’n mynychu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Meddai David: ’Nes i ddechrau dysgu Cymraeg yn yr ysgol a ro’n i’n eitha’ mwynhau, ond yn anffodus wnes i ddim cwblhau'r cwrs. Ro’n i’n difaru peidio ac yn ddiolchgar iawn mod i wedi cael cyfle arall i ddysgu’r iaith a dw i’n gobeithio ryw ddydd y bydda i’n rhugl.’
‘Rydyn ni i gyd yn benderfynol yn y ganolfan y byddwn ni yn gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ryw ddydd. Ac mae gen i fwy fyth o gymhelliad achos mi fydden i’n hoffi gallu helpu fy merched gyda’u gwaith cartref.’ Mae wyth o aelodau staff y ganolfan, sy’n rhan o Goleg y Barri, yn y broses o ddysgu siarad Cymraeg.
* Ewch i’r adran Canolfannau i wybod mwy am y gwaith y mae’r Canolfannau yn ei wneud o ran gweithgareddau a chyrsiau Cymraeg yn y Gweithle.